Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 25 Chwefror 2015 i'w hateb ar 4 Mawrth 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynaliadwyedd gwasanaethau meddygon teulu mewn ardaloedd gwledig? OAQ(4)0556(HSS)

2. David Rees (Aberafan):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynllunio'r gweithlu gan Lywodraeth Cymru o fewn y GIG yng Nghymru? OAQ(4)0565(HSS)

3. Eluned Parrott (Canol De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ofal i gleifion sy'n aros i gael eu derbyn i'r ysbyty am ofal heb ei gynllunio? OAQ(4)0564(HSS)

4. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i wella gwasanaethau i bobl sydd â hemoffilia? OAQ(4)0568(HSS)

5. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer yr ambiwlansys o Loegr sy'n trin cleifion yng Nghymru? OAQ(4)0562(HSS)

6. Ann Jones (Dyffryn Clwyd) Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o drefniadau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ(4)0555(HSS)

7. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Pa gamau y mae byrddau ac ymddiriedolaethau'r GIG yn cymryd i ailgylchu offer meddygol pan nad oes angen yr offer ar y defnyddiwr cychwynnol bellach? OAQ(4)0566(HSS)

8. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau mamolaeth y GIG yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0560(HSS)

9. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau bodlonrwydd cleifion yng Nghymru? OAQ(4)0559(HSS)

10. Sandy Mewies (Delyn): Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i sicrhau bod gofal y tu allan i'r ysbyty ar gael i bobl sy'n dioddef o lymffoedema nad yw'n gysylltiedig â chanser? OAQ(4)0561(HSS)

11. Aled Roberts (North Wales): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o newidiadau i systemau monitro gwaed ar gyfer cleifion sy'n dioddef o glefyd y siwgr yng Nghymru? OAQ(4)0567(HSS)

12. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd? OAQ(4)0553(HSS)

13. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn a fydd yn cymryd lle'r Gronfa Byw'n Annibynnol yng Nghymru? OAQ(4)0554(HSS)

14. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gamau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i wella'r opsiynau datblygu proffesiynol parhaus sydd ar gael i feddygon yng Nghymru? OAQ(4)0563(HSS)

15. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau meddyg teulu i bobl Llanwrtyd a'r cymunedau cyfagos? OAQ(4)0557(HSS)

Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.